"Henaint ni ddaw ei hunan;-daw ag och Gydag ef, a chwynfan,Ac anhunedd maith weithian,A huno maith yn y man."Yn rhinwedd ei waith mewn meysydd academaidd, John Morris-Jones (1864-1929) yw un o ffigurau pwysicaf hanes llenyddiaeth Gymraeg, ac roedd yn rhan allweddol o'r "dadeni" a welwyd mewn llenyddiaeth Gymraeg ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.Er bod ei farddoniaeth yn llai adnabyddus na'i waith mewn meysydd eraill, roedd Caniadau, yr unig gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddodd, yn ddylanwadol iawn yn ei ddydd ac yn rhan allweddol o'i ymgyrch i wella safonau ieithyddol a barddonol ei gyd-Gymry. Mae'n cynnwys ei delynegion enwog fel Cwyn y Gwynt ynghyd â'i englynion a'i awdlau. Roedd hefyd yn gyfieithydd medrus a chynhyrchiol o farddoniaeth ieithoedd eraill ac mae'r rhain hefyd yn rhan bwysig o'r Caniadau, gan gynnwys telynegion Heinrich Heine a Phenillion Omar Khayyâm, enghraifft brin o gyfieithiad i'r Gymraeg o waith llenyddol o'r tu allan i Ewrop.
AmazonPagina's: 184, Paperback, Melin Bapur
Prijshistorie
* Prijshistorie bevat geen data van Amazon, Amazon Marketplace.
Prijzen voor het laatst bijgewerkt op: